Mae gan Ruth sgiliau arbennig i drin pob math o achosion cymhleth gan gynnwys triniaethau i ail-wneud sianel y gwreiddyn a microlawdriniaeth.
Ar ôl graddio o Ysgol Ddeintyddol Lerpwl yn 2007 treuliodd Ruth nifer o flynyddoedd yn gweithio i Wasanaeth Deintyddol Cymunedol Gogledd Cymru yn gofalu am gleifion ag anghenion mwy cymhleth. Yn fuan ar ôl i'w thrydydd plentyn gael ei eni, fodd bynnag, dychwelodd i astudio gan gwblhau cwrs mewn deintyddiaeth adferol a phenderfynodd ganolbwyntio'n llwyr ar endodonteg.
Mae ganddi bellach radd meistr mewn endodonteg ac mae'n diweddaru ei gwybodaeth trwy ddilyn uwch gyrsiau endodontig yn rheolaidd, e.e. llawdriniaethau endodontig. Mae Ruth, sy’n ddeintydd moesegol ac yn benderfynol o ddarparu'r gwasanaeth gorau i bobl yng Ngogledd Cymru, yn defnyddio offer a nwyddau o’r ansawdd gorau. Nid oes cyfaddawdu o ran gofal.
Ochr yn ochr â'i gwaith o ddydd i ddydd treuliodd beth amser yn cefnogi myfyrwyr deintyddol israddedig fel darlithydd clinigol yn Ysgol Ddeintyddol Caerdydd ac yn fwy diweddar mae wedi ymuno â thîm SimplyEndo fel goruchwyliwr ar gyfer y myfyrwyr MSc.
Mae hi'n byw yn Ynys Môn gyda'i gŵr, ei thri o blant a dau gi. Mae’n mwynhau rhedeg yn gymdeithasol ac mewn cystadlaethau, ac wedi cwblhau sawl marathon dros y blynyddoedd.
Popeth y gallech fod eisiau ei wybod am driniaeth sianel y gwreiddyn, pam fod ei angen a beth i'w ddisgwyl.
Roedd y driniaeth yn ddi-boen a chefais fy ngweld yn gyflym iawn ar ôl cael atgyfeiriad gan fy neintydd am driniaeth sianel y gwreiddyn. Roedd Ruth yn gyfeillgar iawn ac yn gwneud i mi deimlo’n gyfforddus, ac esboniodd y driniaeth gam wrth gam.